Polisi Preifatrwydd

Rydym eisiau i chi deimlo’n gwbl hapus wrth bori ar ein gwefan a dysgu am Fasnach Deg a Chynnyrch Cynaliadwy Dwyfor.
Fel ymwelydd achlysurol i’n safle ni fyddwn yn cofrestru'ch cyfeiriad e-bost nac unrhyw wybodaeth bersonol arall.

Nid yw Cynnyrch Cynaliadwy Dwyfor yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol a allai arwain at adnabod unigolion oni bai ei fod wedi’i roi i ni’n wirfoddol ac yn fwriadol. Nid ydym yn pasio'ch manylion ymlaen at unrhyw sefydliadau eraill.

Os hoffech roi archeb i ni, naill ai trwy’r gwefan neu dros y ffôn yna bydd yn rhaid i chi roi rhywfaint o wybodaeth bersonol.  Bydd hynny’n cynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a gwybodaeth cerdyn credyd.

Mae gan y safle hon fesurau diogeledd i warchod rhag colli, cam-drin neu newid yr wybodaeth o dan ein rheolaeth. Mae pob pryniant rydych yn ei wneud o Gynnyrch Cynaliadwy Dwyfor yn gwbl ddiogel.

Mae unrhyw wybodaeth a roir ar lein yn cael ei lawr lwytho o'r system we i weinydd diogel ac yn cael ei gadw yno.  Mae Cynnyrch Cynaliadwy Dwyfor yn defnyddio Secure socket Layer (SSL).  Mae hynny’n safonol ar gyfer pryniannau masnachol diogel i gerdyn credyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch ein polisi preifatrwydd mae croeso i chi gysylltu â ni trwy’r manylion ar ein tudalen gyswllt.

 

 

 

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni: 03081319      Ffôn : 01758 720969      Ffacs : 01758 720969      E-bost : info@dwyforsustainable.com