Polisi Dychwelyd
Rydym ni yng Nghynnyrch Cynaliadwy Dwyfor eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn hollol fodlon gyda’n cynnyrch. Er bod hynny'n hynod o annhebygol, os nad ydych yn fodlon gyda'ch archeb, rhowch wybod i ni ar unwaith a byddwn yn ymdrechu i ddatrys unrhyw broblemau sydd wedi codi.
Rydym yn argymell eich bod yn cadw’r nodyn dosbarthu / anfoneb er mwyn i ni allu ymdrin â’ch cwyn yn gyflym.
Nwyddau wedi’u difrodi
Petai’r cynnyrch wedi’i ddifrodi mewn unrhyw ffordd neu wedi’i dorri wrth ei ddosbarthu, cysylltwch â ni o fewn 3 diwrnod i’r dosbarthiad gwreiddiol trwy’n manylion ar ein tudalen gyswllt.
Yn anffodus ni dderbynnir nwyddau a fydd yn cael eu dychwelyd ar ôl 3 diwrnod.
Nwyddau diangen
Yn amlwg mae’n haws os nad yw’r un ohonom yn gwneud camgymeriad yn y lle cyntaf, felly byddwn yn ail wirio’ch archeb cyn ei anfon a byddai’n gymorth i ni pe byddech yn gwneud yn siŵr eich bod wedi dewis yr eitemau cywir yn y lle cyntaf.
Eto, does neb yn berffaith (er bod tîm Dwyfor yn dod yn eithaf agos!) Felly os ydym wedi gwneud camgymeriad ac wedi anfon rhywbeth anghywir atoch yna rhowch wybod i ni o fewn 3 diwrnod o’r dosbarthiad gwreiddiol a byddwn yn datrys y broblem ar unwaith ar ein cost ein hunain.
Os mai chi sydd wedi gwneud y camgymeriad rydym yn addo peidio â chwerthin. Byddwn hefyd yn gwneud ein gorau i’ch helpu. Os anfonwch yr eitemau yn ôl heb eu difrodi o fewn 3 diwrnod i’r dosbarthiad gwreiddiol byddwn yn rhoi credyd i chi yn yr un modd â’ch taliad gwreiddiol o fewn 7 diwrnod o dderbyn yr eitem i’w dychwelyd, er efallai bydd yn rhaid i ni godi tâl ail stocio o 10%.
Anfonwch nwyddau sydd wedi'u hawdurdodi i’w dychwelyd at y cyfeiriad canlynol:
Cynnyrch Cynaliadwy Dwyfor
Parc Dwyfor
Lon Dewi Sant
Nefyn,
Pwllheli
Gwynedd,
LL53 6EG
Does dim yn y Polisi Dychwelyd sy’n effeithio ar eich hawliau statudol na'ch hawliau o dan unrhyw gytundeb sydd gennych gyda ni.
Ffoniwch ni AM DDIM gydag unrhyw gwestiynau pellach sydd gennych ynghylch ein polisi dychwelyd ar 01758 720 969
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni: 03081319 Ffôn : 01758 720969 Ffacs : 01758 720969 E-bost : info@dwyforsustainable.com


