Masnach Deg

Mae Cynnyrch Cynaliadwy Dwyfor yn gyfanwerthwr sy’n arbenigo mewn Masnach Deg a chynnyrch sy’n amgylcheddol gyfeillgar.

Beth yw Masnach Deg?

 Mi welwch nod Masnach Deg ar amrywiaeth eang o gynnyrch, o goffi a the i fflapjacs a ffrwyth.

Mae Masnach Deg yn ardystiad annibynnol sy’n gwarantu fod cynhyrchwyr mewn gwledydd yn datblygu’n derbyn pris teg am eu gwaith, yn gwarchod yr amgylchedd ac yn cael ‘Premiwm Masnach Deg’ - arian ychwanegol i dalu am brosiectau megis dŵr ffres, ysgolion a gofal iechyd.

Pam y dylech chi werthu cynnyrch Masnach Deg?

Yn gyntaf mae’n gwneud synnwyr busnes gwych.  Mae gwerthiannau cynnyrch Masnach Deg yn cynyddu dros 50% y flwyddyn.  Mae dros 61% o bobl y DU yn adnabod nod Masnach Deg erbyn hyn ac mae arddangos y nod Masnach Deg yn dangos fod gan eich cwmni gydwybod ynghylch ansawdd.

Yna mae moeseg - mae Masnach Deg yn gallu sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei gam-drin wrth gynhyrchu’r cynnyrch rydych yn ei werthu.   Hyd yn oed yn well, mae cymunedau mewn gwledydd sy’n datblygu yn cael budd gwirioneddol ohono. 

Ac os prynwch trwy Dwyfor, rydym hefyd yn rhoi 5% o’n holl elw i Dŷ Gobaith, felly mae plant yng Nghymru’n elwa hefyd.

A yw Masnach Deg yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?

Mewn gair, ydi!  Ond peidiwch â chymryd ein gair ni.  Dyma’r hyn ddywedodd Mr Kojo Aduhene-Tano,   ffermwr coco Masnach Deg yn Ghana.

“Cyn Masnach Deg roedd y plant yn ein pentref yn gorfod cerdded 7 cilometr i nôl dŵr.  Ar ôl iddyn nhw ei gael, roedd yn fudr ac yn ein gwneud yn sâl.  Diolch i’r arian rydym wedi’i godi trwy Fasnach Deg, mae gennym bwmp erbyn hyn yng nghanol ein pentref i gael dŵr ffres ac mae gennym ysgol ar gyfer y plant.

 

Am ragor o wybodaeth ar Fasnach Deg profwch y dolenni isod:
Sefydliad Masnach Deg:  www.fairtrade.org.uk
Masnach Deg Cymru:    www.fairtradewales.com
Fforwm Masnach Deg yr Alban: www.scottishfairtradeforum.org.uk

 

Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni: 03081319      Ffôn : 01758 720969      Ffacs : 01758 720969      E-bost : info@dwyforsustainable.com