Ynglyn â Chynnyrch Cynaliadwy Dwyfor
Sefydlwyd y cwmni gan Mark Richardson a Michael Squire, dau sy’n angerddol dros Fasnach Deg. Yr amcan oedd ei gwneud yn haws i gaffis, gwestai a busnesau brynu cynnyrch Masnach Deg a chynnyrch moesegol.
Mae Mark wedi bod yn rhan o Fasnach Deg ers 1998. Yn fwyaf diweddar, bu’n rhedeg ymgyrch i wneud Cymru'r Genedl Fasnach Deg gyntaf. Roedd Michael eisoes yn rhedeg Dwyfor Coffee, cwmni mawr a llwyddiannus yn gwerthu diodydd poeth Masnach Deg.
Y canlyniad yw cwmni hollol unplyg gyda’r gallu i gyflenwi amrywiaeth eang o gynnyrch Masnach Deg yn ddibynadwy ac am bris cystadleuol.
Ein cwsmeriaid
Rydym yn fodlon cyflenwi unrhyw sefydliad neu fusnes sydd eisiau prynu cynnyrch Masnach Deg!
Mae'n cwsmeriaid yn cynnwys:
- Caffis, gwestai, siopau a bwytai
- Cynghorau Sir
- Prifysgolion ac ysgolion
- Llywodraeth Cynulliad Cymru
Teg a Gwyrdd
Rydym yn angerddol ynghylch Masnach Deg, ond dyw’n hangerdd dros gynaliadwyedd ddim yn gorffen yno. Rydym wedi cyflwyno cynllun newydd o’r enw ‘Gwastraff am Addysg’.
Roedd y busnes yn tyfu’n golygu fod y pentwr o wastraff yn tyfu hefyd! Felly, dyna benderfynu prynu peiriant i bacio’n gwastraff er mwyn iddo gael ei gasglu a’i ailgylchu. Mae cwmni ailgylchu lleol yn prynu’r gwastraff ac mae unrhyw arian a dderbynnir yn cael ei roi’n ôl i’r ysgol leol.
Rydym yn teimlo’n falch iawn fod ein hymdrechion wedi’u cydnabod. Ym mis Medi Dwyfor oedd y cwmni cyntaf erioed i ennill y categori ‘Gwobr Busnes Gwyrdd’ yng Ngwobrau Llwyddiant Cymru. Ond rydym yn addo na fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Byddwn yn dal i chwilio am fwy o ffyrdd i wneud ein busnes hyd yn oed yn wyrddach.
Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni: 03081319 Ffôn : 01758 720969 Ffacs : 01758 720969 E-bost : info@dwyforsustainable.com


